Fe'm gwnaeth yn ddoeth wel'd fy hun yn ddall

(Crist Doethineb y Saint)
Fe'm gwnaeth yn ddoeth
    wel'd fy hun yn ddall
  Yn fabi'r fall wenwynig;
Ac wedi rhoddi f'hun o'm bodd
  I gyflwr o'dd ddamnedig.

Yn ddoeth i 'nabod Iesu Grist,
  Yn ffrynd i drist eneidiau;
Ac iddo roddi waed yn llif,
  Tros fy aneirif feiau.

Ces wel'd mai fe yw'm Brenin bra
  Fy Mhrophwyd a'm Offeiriad;
Fy Nerth a Nrhysor mawr
    a Nhwr,
  F'Eiriolwr a fy Ngheidwad.

Fy Nghyfaill byth
    a'm ffyddlon Frawd,
  Mae f'enaid tlawd yn garu;
Sy'n nofio yn awr
    o ganol ne'
  Y man mae e'n teyrnasu.

Dysgodd fi deithio'r llwyfr bra,
  Sy'n myn'd tua thrag'wyddoldeb;
Tros fryniau mawr ac anial dir
  Ond dyna wir ddoethineb.

Fel niwl a thân bob nos a dydd,
  Fy arwain bydd ei hunan;
Trwy'r anialwch mawr
    dwg fi'n ei gol,
  Mewn i'r ddymunol Ganaan.

Fe'm dysg, fe'm cyfarwydda trwy,
  Bob rhwystrau wi'n gyfarod;
Rhag cyfeiliorni yma a thraw,
  'Chai fyn'd o law fy Mhriod.

Fe'm gwna mor ddoeth
    nes drysu'r fall,
  Yn ei chyfrwysgall dichell;
Dadrys eu rhwydau o bob rhyw,
  Can's Iesu yw fy nghyfaill.

Eneinia fi etto wel'd yn glir,
  Rho im' fôr o wir ddoethineb;
I'm gywir deithio'r llwybr bra',
  Sy'n mynd i drag'wyddoldeb.
William Williams 1717-91

Tôn [MS 8787]: Irish (<1811)

gwelir:
Crist yn Gyfiawnder
 
Euogrwydd pechod oedd yn bwn
Crist yn Sancteiddrwydd
 
Pa ham y digalonnai mwy
Crist yn Brynedigaeth
 
O Iesu fy Ngwaredwr llawn

  Efe yw'm Brenin mawr dinam

(Christ the Wisdom of the Saints)

He made my wise
    to see myself as blind
  As a son to the poisonous devil;
And having put myself willingly
  Into a condition that was condemned.

Wise to know Jesus Christ,
  As friend to sad souls;
And that he gave blood as a stream,
  For my innumerable faults.

I got to see that he is my good King
  My Prophet and my Priest;
My Strength and my great Treasure
    and my Tower,
  My Advocate and my Saviour.

My Companion forever
    and my faithful Brother,
  My poor soul is loving;
Who is flying now
    from the middle of heaven
  The place where he is reigning.

He taught me to travel the good path,
  That goes towards eternity;
Over great hills and a desert land
  But there is true wisdom.

Like fog and fire every night and day,
  Leading me he himself shall be;
Through the great wilderness
    he will bring me to his bosom,
  Into to desired Canaan.

He teaches me, he trains me through
  All the obstructions I meet;
Lest I wander here and there,
  I may not leave the hand of my Spouse.

He makes me so wise
    that the devil is confounded,
  In his crafty deception;
Their nets of every kind shall undo,
  Since Jesus is my companion.

Anoint me again to see clearly,
  Give me a sea of true wisdom;
For me truly to travel the good path,
  That goes to eternity.
tr. 2021 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

No personal approval is given of products or services advertised on this site and no personal revenue is received.

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~